|
|
|
|
BETH YW EPILEPSI? Tuedd i gael ffitiau neu drawiadau cylchol yw epilepsi. Mae ffit neu drawiad yn fyr, fel arfer yn aflonyddwch annisgwyl ar yr ymwybod, ymddygiad, adwaith echddygol neu synhwyriad. Mae’n digwydd oherwydd fod anghydbwysedd cemegol o fewn yr ymennydd yn golygu fod negeseuon o’r ymennydd yn mynd yn anhrefnus. Gall yr anghydbwysedd yma ddigwydd yn unrhyw ran o’r ymennydd. Mae’r math o fit neu drawiad y mae person yn brofi yn dibynnu ar pa ran o’r ymennydd mae’r abnormaledd ac i ba ran y mae’n ymledu. PWY SYDD GAN EPILEPSI?
BETH SY’N ACHOSI EPILEPSI? Gall nifer o bethau achosi epilepsi.
Mewn llawer achos ni ellir darganfod rheswm a dywedir fod y rhain yn dioddef o epilepsi ‘idiopathic’. Mae rhiniog gwrthwynebiad unigolion i anghydbwysedd cemegol yn yr ymennydd yn wahanol iawn. Unwaith mae’r cyflwr wedi cael ei gydnabod dylid gwneud pob ymdrech i helpu’r person a’r teulu i ddeall epilepsi. TRAWIADAU RHANNOL NEU FFOCAL Mae gweithgaredd epileptig yn dechrau mewn un rhan fechan o’r ymennydd. Gall y trawiad fod yn un syml neu gymhleth. TRAWIADAU RHANNOL SYML Mae’r trawiad yma yn dynwared gwaith normal rhan yr ymennydd sydd wedi cael ei aflonyddu. Mae’r trawiad, fel arfer, yn fyr. Ni chollir ymwybyddiaeth. Mae symptomau posibl yn cynnwys teimladau cryf o ofn neu hapusrwydd. Gall arogl drwg, blas drwg neu ias yn y stumog ddigwydd. Yn aml fe elwir y profiadau hyn yn ‘aura’. Gellir cael symptomau sy’n effeithio symudiadau. Fe all y pen gael ei dynnu i un ochr. Gall y llaw neu’r fraich fynd yn anystwyth a chael ei thynnu i fyny. Efallai bydd plygiadau yn yr aelodau o’r corff y’n cael eu heffeithio. Weithiau bydd teimladau corfforol. Efallai bydd goglais neu wres i lawr un ochr i’r corff. Gellir effeithio’r golwg. Mae goleuadau’n fflachio a gweld lliwiau od yn symptomau nodweddiadol sy’n effeithio hanner y golwg. TRAWIADAU RHANNOL CYMHLETH Gall rhain ddatblygu o drawiadau rhannol syml neu fe all ymwybyddiaeth gael ei amharu o’r cychwyn, sy’n effeithio ar allu’r person i ymddwyn yn normal. Gallant fod yn fyr neu weithiau yn llawer hirach. Gall trawiadau o’r fath arwain i ymddygiad cymhleth awtomatig. Mae rhain yn cynnwys tynnu ar, rhoi neu dynnu dillad; codi gwrthrychau; cnoi; clecio gwefusau; ac ailadrodd symudiadau dibwrpas. Weithiau bydd canfyddiad yn newid a phethau yn edrych yn fwy neu yn llai nag ydynt mewn gwirionedd. Gall hyn fod yn frawychus ac yn anodd iawn i’w egluro i eraill. Mae’r ‘aura’ sy’n gwneud i’r person deimlo ei fod y tu allan i amgylchedd ei hun yn anoddach fyth i’w egluro. Pan mae’r person yn gwella fe all fod yn ddryslyd ac yn gynhyrfus. Fel rheol ni fydd y person yn cofio dim am yr hyn a ddigwyddodd. Gall y gweithgaredd sy’n achosi trawiad syml neu gymhleth ledaenu i rannau eraill o’r ymennydd ac mewn rhai achosion droi yn drawiad gyffredinol. TRAWIADAU CYFFREDINOL Pan mae’r epilepsi yn effeithio ar ddau hemisffer yr ymennydd ar unwaith collir ymwybyddiaeth. ABSENOLDEB (petit mal) Cyfnodau byr o ymyriad ymwybyddiaeth neu gymylu ar ymwybyddiaeth. Gall y cyfnodau yma gael eu camgymryd am synfyfyrio neu o fod yn ddisylw.
TRAWIADAU TONIC CLONIC (grand mal) Mae’r trawiadau yma yn ddilyniant nifer o ddigwyddiadau.
Bydd ymwybyddiaeth yn dychwelyd yn raddol heb ymyrraeth. Efallai bydd cyfnod o ddrysni a chur pen drwg yn dilyn y trawiad a bydd angen gorffwyso. Anaml iawn fydd y person yn cymryd mwy nag awr i wella’n llwyr, ond mae pob person yn unigolion. BETH FEDRWCH CHI EI WNEUD OS GWELWCH RHYWUN YN CAEL TRAWIAD DIRDYNNOL? Peidiwch a chynhyrfu!
Os gwelwch yn dda peidiwch a:
Nid oes eisiau galw ambiwlans heblaw fod un trawiad yn dilyn un arall heb fod gwellhad llwyr rhyngddynt Neu Os yw’r person yn parhau’n anymwybodol am fwy na phum munud Neu Fod y person wedi anafu ei hun ac angen triniaeth feddygol |
|