Cymorth Cyntaf
Home Up

 

Athrawon
Cymorth Cyntaf
Diogelwch
Gwybodaeth Cyffredinol

A YW POB FFIT EPILEPTIG YR UN FATH?

Mae llawer math gwahanol o ffit epileptig a bydd y camau angenrheidiol yn ystod ac ar ôl ffit yn dibynnu ar y math o ffit. Gall rhai pobl gael mwy nac un math o ffit. Mae rhai pobl yn cael ffitiau yn eu cwsg yn unig.

SUT I REOLI FFIT DDIRDYNNOL

 

(tonig clonig neu glonig - a adwaenid gynt fel Grand Mal) Mae’r rhan fwyaf o ffitiau yn digwydd yn ddirybudd, yn para amser byr yn unig ac yn stopio heb driniaeth arbennig. Gall anafiadau ddigwydd, ond nid yw’r rhan fwyaf o bobl yn cael niwed mewn ffit, a does dim rhaid iddynt fynd i’r ysbyty na gweld meddyg. Pan gaiff rhywun ffit ddirdynnol, efallai y torrir ar eu patrwm anadlu arferol a gallant droi’n las, yn enwedig o gwmpas y gwefusau. Er y gall hyn godi dychryn o’i weld, nid yw fel arfer yn argyfwng meddygol. (Mae mwy o fanylion am hyn isod).


BETH I’W WNEUD YN YSTOD FFIT DDIRDYNNOL

 

bullet Cadwch bobl eraill draw.
bullet Rhowch rywbeth meddal dan ben yr unigolyn i’w atal rhag brifo.
bullet Symudwch yr unigolyn yn unig os yw mewn lle peryglus, e.e. ar y ffordd, ar ben grisiau.
bullet Symudwch ddodrefn a phethau oddi wrth yr unigolyn, nid y ffordd arall.
bullet Peidiwch â cheisio cyfyngu ar y symudiadau dirdynnol. Gadewch i’r ffit ddirwyn i’w phen.
bullet Peidiwch â rhoi dim yng ngheg yr unigolyn. Does dim perygl o lyncu’r tafod, ac fe allech dorri dannedd.

PAN FYDD Y FFIT DROSODD

bullet Rholiwch yr unigolyn ar ei ochr, os oes modd, i’r ystum adferol.
bullet Sychwch unrhyw boer ac os yw’r anadlu’n dal yn drwm, gofalwch nad oes dim yn cau’r llwnc megis dannedd gosod neu fwyd.
bullet Ceisiwch osgoi codi cywilydd ar yr unigolyn. Os yw wedi gwlychu neu faeddu, deliwch â hyn mor breifat ag sydd modd.
bullet Arhoswch gyda’r unigolyn i dawelu ei m/feddwl nes dod ati/i ei hun yn llwyr.

 

MAE’N ARGYFWNG MEDDYGOL A DYLID CEISIO HELP MEDDYGOL OS:

 

bullet Anafwyd rhywun yn ddrwg mewn ffit.
bullet Cânt drafferth anadlu wedi ffit.
bullet Bydd un ffit yn dilyn y llall neu os yw’r ffit yn para mwy na phum munud ac na wyddoch faint y maent yn para fel arfer.
bullet Bydd y ffit yn para’n hwy na’r arfer i’r unigolyn hwnnw.

CAMAU AR GYFER MATHAU ERAILL O FFITIAU:

Ffitiau  Rhannol Cymhleth

Daw rhywun yn ddryslyd yn sydyn, crwydro o gwmpas neu edrych fel pe na bai’n gwybod beth mae’n wneud (codi pethau, tynnu dillad, ac yn y blaen):

Peidiwch â cheisio rhwystro’n unigolyn, ond ei d/thywys ymaith oddi wrth berygl megis crwydro i ganol y ffordd; siaradwch yn dawel a di-lol a cheisio ei helpu i ymgyfarwyddo eto mor fuan ag sy’n bosibl.

 

Ffitiau Rhannol Syml

Yn y mathau hyn o ffit, nid yw’r unigolyn yn colli ymwybyddiaeth ac mae’n gwybod beth sy’n digwydd. Fodd bynnag, gall effeithiau’r ffit beri loes i’r sawl sy’n eu dioddef ac efallai y bydd angen cysur a sicrwydd. Os mai rhybudd yw’r math hwn o ffit (a elwir weithiau yn awra) y bydd ffit ddirdynnol yn dilyn, efallai y bydd  angen helpu’r dioddefwr i fod mor ddiogel ag sydd modd cyn i’r ffit ddigwydd.

 

Ffitiau Tonig ac Afonig

 

Yr unigolyn yn syrthio ac yna’n dod ato’i hun yn ddryslyd neu beidio. Rhowch sicrwydd iddynt, gofalu nad yw wedi anafu ac aros nes iddynt wella’n llwyr.

 

Ffitiau Absenoldeb  (a adwaenid gynt fel petit mal)

 

Colli ymwybyddiaeth am fymryn bach. Byr iawn yw parhad y math yma o ffit fel rheol, ond efallai y bydd angen tywys i ffwrdd o unrhyw berygl.

OES FFORDD ARALL I MI HELPU?

Am eu bod yn colli ymwybyddiaeth, mae pobl ag epilepsi yn aml heb wybod beth sy’n digwydd iddynt adeg ffit

 

Os sylwch, medrwch roi gwybodaeth hanfodol i’r meddyg neu’r niwrolegydd, a all fod yn fuddiol iawn wrth wneud diagnosis o epilepsi a phennu pa fath o ffit sy’n digwydd. Mae hyn yn galluogi’r meddyg i roi’r feddyginiaeth iawn rhag epilepsi.

GALL Y WYBODAETH A GANLYN FOD O HELP FEL HYN:

bullet Cadwch gofnod o ddyddiadau ac amser y ffitiau ac am ba hyd.
bullet Lle’r oedd yr unigolyn? Beth oedd yn ei wneud?
bullet A soniodd yr unigolyn am unrhyw deimlad anarferol?
bullet Sylwoch chi ar unrhyw newid tymer?
bullet Beth dynnodd eich sylw at y ffitiau?
bullet A ddigwyddodd y ffit yn ddirybudd?
bullet A fu’r unigolyn yn anymwybodol neu yn ymwybodol wahanol mewn unrhyw ffordd?
bullet Wnaeth lliw’r unigolyn newid?
bullet A wnaeth unrhyw rannau o’r corff fynd yn dynn, neu blycio? Os felly, pa rannau?
bullet Oedd anadlu’r unigolyn yn wahanol?
bullet A wnaeth yr unigolyn rywbeth, e.e. mwmial, crwydro o gwmpas, ffidlan â’i dd/dillad?
bullet A wnaeth yr unigolyn faeddu neu wlychu ei hun?
bullet A frathodd ei d/thafod?
bullet Sut oedden nhw wedi’r ffit?
bullet Oedden nhw eisiau cysgu? Am ba hyd?
bullet Faint o amser oedd hyd nes y medrodd yr unigolyn ailgydio mewn gweithgareddau normal ?
HELPLINE NUMBER: 08457 413774
Epilepsy Wales is a registered charity (Registration Number: 1059067) and a Company Limited by Guarantee (Registration: 3262144). The Registered office is Bradbury House, 23 Salisbury Road, Wrexham, LL13 7AS Wales

This Epilepsy Wales website is covered by a Disclaimer and protected by copyright laws

Web Designed by Gareth Morris (morrig47@btinternet)
Last modified: 04/03/2009