|
|
|
FFEITHIAU AM EPILEPSI
CANLLAW I ATHRAWON Pam? Fe fydd y mwyafrif helaeth o blant a phobl ifanc gydag epilepsi yn cael eu haddysg o fewn ysgolion ffrwd arferol. Mae’n debygol iawn, felly, y bydd pob athro yn dod ar draws epilepsi ryw bryd yn ystod ei yrfa. Ni fydd rhieni, bob amser, yn gadel i’r ysgol wybod – efallai nad ydynt yn gwybod eu hunain – efallai mae’r athro fydd y person cyntaf i sylweddoli fod gan bentyn epilepsi. Ni ellir gôr bwysleisio rôl yr athro wrth helpu disgyblion i dderbyn y cyflwr yn synhwyrol. Beth yw epilepsi? Epilepsi yw tueddiad i gael ffitiau neu drawiadau rheolaidd, mae’r ddau beth yn debyg iawn – sef aflonyddwch byr, heb ei bryfocio, o ymwybyddiaeth, ymddygiad, canfyddiad, swyddogaeth echddygol neu synhwyriad. Mae’n digwydd oherwydd anghydbwysedd cemegol o fewn yr ymennydd, sy’n golygu fod negeseuon trydanol yr ymennydd yn cael eu drysau. Gall yr anghydbwysedd yma ddigwydd o fewn unrhyw ran o’r ymennydd neu yn yr ymennydd i gyd ar unwaith. Pa effaith a gaiff ar blentyn? Mae epilepsi yn achosi i blentyn gael trawiadau. Ar wahân am hyn, gyda rheolaeth synhwyrol o fewn y cartref ac yn yr ysgol, ni ddylai epilepsi gael unrhyw effaith o gwbl ar blentyn. Os y bydd trawiad yn digwydd, fe fydd ymateb tawel yr athro yn pennu agwedd y dosbarth. Fe fydd gwybod sut i ddelio gyda thrawiadau yn dileu ofnau ag embaras. Mae math, a nifer o gerwindeb trawiadau yn amrywio, ac mae gan bob plentyn angen am ddealltwriaeth unigol. Meddyginiaeth Fe gaiff tabledi, capsiwlau neu surop eu pennu er mwyn adeiladu gwrthwynebiad cemegol i ‘stiumuli’ a all ddechrau neu achosi trawiad. Mae’n holl bwysig fod y plentyn yn cymryd y feddyginiaeth a gaiff ei bennu gan meddyg. Os bydd trawiadau yn cynyddu, neu os ydi’r plentyn yn ymddangos yn gysglyd, ddim yn cymryd sylw, neu yn orfywiog, dylech drafod y mater gyda’r rhieni a thîm iechyd yr ysgol. Dylai’r holl staff, athrawon ac eraill, unai wybod beth i’w wneud os digwydd trawiad neu pwy i gysylltu am gymorth. Gall epilepsi niweidio, neu newid personoliaeth? Na, nid yn ei hun, ond fe achosir) gwaelod yr anhwyldeb gael effaith mewn rhai achosion. Ffactorau eraill a all gael effaith ar ddatblygiad y plentyn yw, gor-amddiffyn, gor-ddisgwyliadau, gwrthodiad a chamddealltwriaeth. Nid yw’n syniad da i orlwytho plant gydag epilepsi y tu fewn neu y tu allan i’r ysgol. Dylid ymdrin a hwy yn union fel unrhyw blentyn arall yn y dosbarth. Ni ddylid lleihau ar ddisgyblaeth o fewn yr ystafell ddosbarth oherwydd ofnau ynghylch ambell trawiad, cyn belled fod y posibilrwydd y gall y trawiadau ddigwydd heb i neb sylwi, cael ei gymryd i ystyriaeth. SUT I GALL ATHRAWON HELPU Dylech osgoi defnyddio y label ‘epileptig’. Trawiadau sy’n epileptig, nid plant. Mae’r label yn cymylu hunaniaeth y plentyn. Dylech drin a thrafod plentyn gydag epilepsi yn yr un modd ag yr ydych yn trin plant eraill yn y dosbarth, Ni ddylid lleihau disgyblaeth o fewn y dosbarth oherwydd ofnau ynghylch cymell trawiad. Mae’n bwysig eich bod yn delio gyda thrawiadau yn dawel ac yn gymwys. Mae nifer o blant yn perfformio islaw eu gallu a hynny am nad yw eu gallu addysgol yn cael ei lawn werthfawrogi ac yn derbyn sialensiau sydd yn annigonol. Mae gwelliannau yn bosib gydag amser ychwanegol a chefnogaeth. Gall diflastod gymell trawiadau. Mae gan blant gydag epilepsi angen am amserlen lawn. Peidiwch a gadael iddynt ddefnyddio epilepsi fel esgus. Derbyniwch y plentyn gydag epilepsi fel aelod cyffredin o’r dosbarth. Cadwch cyfyngiadau i isafswm. Dylid rhoi pwyslais ar beth y gall y plentyn ei wneud. Gofynnwch am gyngor meddygol ynghylch gweithgareddau addas i bob plentyn gydag epilepsi. Byddwch yn wyliadwrus ynghylch ceryddu plentyn am bensynnu. Efallai fod ei allu i ganolbwyntio yn fratiog. Eglurwch epilepsi i’r plentyn a’r dosbarth. Fe fydd pob disgybl yn dysgu i ddeall a derbyn y cyflwr yn synhwyrol. Cymorth Cyntaf Mae ymateb a chymhwysedd yr athro yn ffactor bwysig iawn o’r modd y mae’r dosbarth yn derbyn y trawiad. Mewn trawiad an-nirdynol, dealltwriaeth a dynesfa digyffro yw’r cyfan sydd ei angen. Gyda thrawiad ‘tonic clonic’ (gweler ein taflen Gwybodaeth Cyffredinol werdd), fe fydd disgyblion yn ymateb i ymddygiad tawel yr athro. Gweithgareddau ysgol Dylid cymryd penderfyniadau ar ôl trafodaeth gyda rhieni a chynghorwyr meddygol, ond fe fydd unrhyw waharddiad ar y plentyn gydag epilepsi yn gwneud i’r plentyn deimlo ac ymddangos yn wahanol. Er, efallai, y byddai yn annoeth i adael i blentyn ddringo rhaff a bariau wal os oes yna hanes o drawiadau rheolaidd anrhagweladwy, gyda gwyliadwriaeth ddigonol, ni ddylid gwahardd ond ychydig o weithgareddau. Ni ddylai nofio greu unrhyw broblem a dylid ei annog, cyn belled fod yna rhywun yn y dwr i ddelio gydag achubiaeth uniongyrchol os bydd angen. Gall rhai trawiadau ddechrau o ganlyniad i oleuadau sy’n fflachio neu yn crynu. (Gweler ein taflen ar ffotosensitifedd.) Gyrfaoedd Dylai athrawon sydd yn rhoi cyngor ar yrfaoedd wybod, nid yn unig am alluoedd academaidd a chymdeithasol y person ifanc, ond hefyd am natur ag amlder eu trawiadau. Mae’r mwyafrif o yrfaoedd ar agor i fwyafrif o bobl ifanc gyda’r cymwysterau angenrheidiol a hyfforddiant, ond mae’r lluoedd arfog, heddlu a’r llynges fasnachol yn annhebygol o dderbyn rhywun sydd a hanes o drawiadau. Yn ôl y gyfraith, ni chaiff rhywun sydd wedi cael trawiad, ers ei benblwydd yn 5 mlwydd oed, yrru cerbydau nwyddau trwm a gwasanaethau cyhoeddus.
|
|